Diolch am ymweld â gwefan swyddogol y Frenhiniaeth Brydeinig.

Ers deg canrif, fe fu’r Frenhiniaeth yn rhan ganolog o fywyd y Deyrnas Unedig. Fel Pennaeth y Wladwriaeth, mae’r Frenhines yn cyflawni nifer o ddyletswyddau cyfansoddiadol a seremonïol. Mae’r Frenhiniaeth hefyd yn:

  • helpu i ddiffinio pwy ydyn ni fel cenedl
  • cynnig sefydlogrwydd mewn cyfnodau o newid
  • gwobrwyo rhagoriaeth a chyflawniadau
  • hybu’r ddelfryd o wasanaethu cyhoeddus a gwirfoddol.

Mae’r wefan yma’n cynnig:

  • gwybodaeth am waith Y Frenhines yn ein cymdeithas ni heddiw
  • bywgraffiadau o rai o aelodau’r Teulu Brenhinol
  • hanes brenhinoedd a breninesau’r oesoedd cynt
  • gwybodaeth gefndirol am y cartrefi a’r casgliadau celf Brenhinol
  • gwybodaeth am ddigwyddiadau ac ymrwymiadau diweddar y Teulu Brenhinol.

Mae’r tudalennau Cymraeg yma’n cynnig:

  • bywgraffiadau byr o’r Frenhines a Thywysog Cymru
  • trosolwg o rôl Y Frenhines
  • gwybodaeth am y Frenhiniaeth yng Nghymru
  • disgrifiad o Anrhydeddau Tywysogaeth Cymru.

Ein gobaith ni yw cynnig mwy o wybodaeth yn y Gymraeg yn y dyfodol. Byddwn ni’n falch o gael eich ymateb chi.



Y Frenhines
more >
 

Tywysog Cymru
more >

CYSYLLTAU
Tywysog Cymru
Cynulliad Cenedlaethol Cymru