Y Frenhines
© 2 Digital



Fe gafodd y Frenhines ei geni yn Llundain ar 21 Ebrill 1926. Hi oedd plentyn cynta’ Dug a Duges Efrog, a ddaeth yn Frenin George VI a Brenhines Elizabeth. Fe gafodd ei bedyddio’n Elizabeth Alexandra Mary.
 
Fe gafodd Tywysoges Elizabeth ei haddysgu gartre’ gyda Thywysoges Margaret, ei chwaer iau. Ar ôl i’w thad ddod yn frenin yn 1936 a hithau’n etifedd tebygol, fe ddechreuodd astudio hanes a deddfwriaeth gyfansoddiadol. Fe wnaeth hi hefyd astudio celf a cherddoriaeth, dysgu marchogaeth a mwynhau drama a nofio.

Wrth i’r Dywysoges fynd yn hyn fe ddechreuodd gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus. Fe ddarlledodd am y tro cynta’ ym mis Hydref 1940, pan oedd yn 14 oed, gan anfon neges at blant Prydain a’r Gymanwlad. Fe wnaeth Tywysoges Elizabeth ei hymrwymiad cyhoeddus cynta’ ym mis Ebrill 1943, gan dreulio diwrnod gyda bataliwn tanciau Gwarchodlu’r Grenadwyr.

O’r adeg honno, fe gynyddodd ei dyletswyddau swyddogol, yn enwedig gyda phobl ifanc. O fis Mawrth 1944, fe ddechreuodd fynd gyda’r Brenin a’r Frenhines ar nifer o’u teithiau ym Mhrydain.
 
Yn gynnar yn 1945, fe gafodd y Dywysoges ei gwneud yn Is-swyddog yng Ngwasanaeth y Tiriogaethwyr Ategol (yr ATS). Erbyn diwedd y rhyfel, roedd hi wedi cyrraedd safle Is-gadlywydd ar ôl gorffen cwrs yng Nghanolfan Hyfforddi Mecanyddol Rhif 1. Fe ymadawodd â’r ATS fel gyrrwr cymwys.

Ar ôl y rhyfel, tyfu a wnaeth ymrwymiadau cyhoeddus Tywysoges Elizabeth. Fe deithiodd i lawer o achlysuron cyhoeddus ar draws Ynysoedd Prydain. Yn eu mysg nhw oedd mynd i Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym mis Awst 1946.

Fe wnaeth ei hymweliad tramor cynta’ yn 1947 pan aeth gyda’i rhieni a’i chwaer ar daith o Dde Affrica. Fe ddathlodd ei phen-blwydd yn 21 oed yn ystod y daith yma, ac fe ymrwymodd ei hun mewn darllediad i wasanaethu’r Gymanwlad.

Yn fuan ar ôl i’r Teulu Brenhinol ddod yn ôl o Dde Affrica, fe ddyweddïodd y Dywysoges â Lefftenant Philip Mountbatten. Roedd priodas y ddau yn Abaty Westminster ar 20 Tachwedd 1947. Fe gafodd Lefftenant Mountbatten ei enwi’n Ei Uchelder Brenhinol Y Tywysog Philip, Dug Caeredin. Roedd yn fab i’r Tywysog Andrew o Roeg ac yn un o or-gor-wyrion Brenhines Victoria.

Yn 1952, bu’n rhaid i Frenin George VI beidio â mynd ar daith i Awstralia a Seland Newydd oherwydd salwch. Fe aeth y Dywysoges yn ei le. Ar 6 Chwefror, bu farw Brenin George VI tra’r oedd Tywysoges Elizabeth yn Cenia, ac fe ddaeth hithau’n Frenhines.

Fe gafodd y Frenhines ei choroni yn Abaty Westminster ar 2 Mehefin 1953. Fe gafodd y seremoni ei darlledu ar y radio a’r teledu ar draws y byd.

O ddyddiau cynhara’ ei theyrnasiad, fe ymrwymodd y Frenhines i’w rôl newydd gydag egni.

Fe ddechreuodd ei dyletswyddau gwleidyddol a seremonïol yn syth, o Agor y Senedd yn Swyddogol i gynnal cyfweliadau wythnosol gyda’r prif weinidog. Prif weinidog cynta’ teyrnasiad y Frenhines oedd Winston Churchill.

O’r dechrau, fe gymerodd y Frenhines ei rôl fel Brenhines y Deyrnas Unedig gyfan o ddifri’. Fe ddechreuodd ar raglen eang o ymweliadau â phob rhan o’r wlad, o Ynysoedd Shetland i Ynysoedd Sili, ac o Eryri i Ynys Metgawdd.

Aeth y Frenhines ar gyfres o ymweliadau â gwledydd tramor hefyd. Ym mlynyddoedd cynta’ ei theyrnasiad, fe aeth y Frenhines i rannau o’r Gymanwlad nad oedd ei rhagflaenwyr erioed wedi ymweld â nhw. Fe gynrychiolodd y Frenhines Brydain ar Ymweliadau Swyddogol â gwledydd fel Rwsia, Tsieina, Japan, Corea, Gwlad yr Iâ ac Unol Daleithiau America.

Yn 1977, fe gafodd Jiwbilî Arian Y Frenhines ei dathlu ym Mhrydain ac ar draws y Gymanwlad. Gyda’r Dug Caeredin, fe deithiodd y Frenhines rhyw 90,000 cilometr er mwyn dathlu’r achlysur gyda’i phobl. Roedd tyrfaoedd enfawr yn eu croesawu nhw ym mhobman.
 
Blwyddyn Jiwbilî Aur y Frenhines oedd 2002, sef 50 mlynedd ers iddi Esgyn i’r Orsedd. Fe aeth dathliadau’r Deyrnas Unedig ymlaen drwy gydol haf 2002, gydag ymweliadau â phob rhanbarth. Canolbwynt y dathlu cenedlaethol oedd Penwythnos y Jiwbilî. Roedd y dathliadau’n cynnwys dau gyngerdd am ddim i 24,000 o bobl yng ngerddi Palas Buckingham, gwasanaeth o ddiolchgarwch yn Eglwys Gadeiriol St. Paul’s, ac ymddangosiad ar falconi Palas Buckingham o flaen tyrfa o filiwn o bobl.

Mae bywyd teuluol wedi para’n bwysig drwy gydol y dyletswyddau swyddogol. Mae pedwar o blant a saith o wyrion gan Y Frenhines a Dug Caeredin.

Fe gafodd Tywysog Charles, Tywysog Cymru, etifedd eglur yr orsedd, ei eni yn 1948, a’i chwaer, Tywysoges Anne, Y Dywysoges Frenhinol, ddwy flynedd yn ddiweddarach. Fe gafodd Tywysog Andrew ei eni yn 1960 a Thywysog Edward yn 1964, ar ôl i Dywysoges Elizabeth gael ei gwneud yn Frenhines.
 
Dyma eu hwyrion: Peter a Zara Phillips (g. 1977 ac 1981); William, Tywysog Cymru, a Henry, Tywysog Cymru (g. 1982 ac 1984); y Dywysoges Beatrice o Efrog, a’r Dywysoges Eugenie o Efrog (g. 1988 ac 1990); a’r Fonesig Louise Windsor, merch Iarll ac Iarlles Wessex (g. 2003).



Y Frenhines
more >
 

Tywysog Cymru
more >

CYSYLLTAU
Tywysog Cymru
Cynulliad Cenedlaethol Cymru