Y Frenhines © David Secombe
|
Mae’r Frenhines yn cyflawni nifer o rolau pwysig. Fel Pennaeth y Wladwriaeth, mae dyletswyddau cyfansoddiadol gan Y Frenhines. Y Frenhines sy’n agor Senedd y Deyrnas Unedig bob blwyddyn. Y hi hefyd sy’n cyfarch Senedd ddatganoledig Yr Alban a Chynulliad Cymru. Mae’r Frenhines yn darllen holl bapurau’r Cabinet, yn cymeradwyo Gorchmynion y Cyfrin-Gyngor, yn llofnodi Deddfau Seneddol, ac yn derbyn y Prif Weinidog a gweinidogion eraill y Llywodraeth ar gyfer cyfweliadau wythnosol.
Ar y cyfan, anffurfiol yw dylanwad Y Frenhines. Mae dyletswydd arni hi i roi ei barn i’r Prif Weinidog ar faterion y Llywodraeth, ond mae’r cyfarfodydd yma’n gyfrinachol. Ar ôl rhoi ei barn, mae’r Frenhines yn dal at gyngor ei gweinidogion.
Y Frenhines sy’n cynrychioli’r Deyrnas Unedig ar y llwyfan rhyngwladol. Mae’n derbyn Penaethiaid a Llysgenhadon Gwledydd sy’n ymweld â’r Deyrnas Unedig, ac mae’n teithio dramor. Gyda’r Dug Caeredin, mae’r Frenhines wedi gwneud dros 60 o ymweliadau swyddogol. Fel Pennaeth y Gymanwlad, mae’r Frenhines yn gweithredu fel cyswllt rhwng gwledydd y byd sy’n perthyn i’r Gymanwlad. Mae’r Frenhines yn gwneud ymweliadau ar ran y Gymanwlad. Mae’n cysylltu’n rheolaidd ag Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymanwlad a Phenaethiaid Llywodraethau. Mae’n mynd i ddathlu Gwyl y Gymanwlad yn Llundain, yn darlledu negeseuon blynyddol i ddathlu’r Nadolig a Gwyl y Gymanwlad, ac mae’n mynd yn aml i Gemau’r Gymanwlad.
Mae nifer o ddyletswyddau seremonïol gan Y Frenhines. Mae’n ymddangos ar nifer o achlysuron cyhoeddus fel:
- gwasanaethau Urdd y Gardys ac Urdd yr Ysgallen
- Achlysur Cyflwyno’r Faner
- seremoni Dydd y Cofio
- a gwasanaethau cenedlaethol yn Eglwys Gadeiriol St. Paul’s ac Abaty Westminster.
Mae’r Frenhines yn cydnabod rhagoriaeth a chyflawniad gan aelodau’r gymdeithas. Mae Anrhydeddau am wasanaeth clodwiw’n cael eu cyhoeddi ddwywaith y flwyddyn. Fe allai unrhyw unigolyn gael ei anrhydeddu am wasanaeth cyhoeddus eithriadol neu rywbeth mae wedi’i gyflawni yn ei faes, o weithwyr elusennol i bencampwyr chwaraeon.
Fel arfer, mae seremonïau arwisgo’n cael eu cynnal ym Mhalas Buckingham, ond weithiau yng Nghastell Caerdydd. Mae’r Frenhines hefyd yn arwain derbyniadau, garddwesti a chiniawau i bobl sydd wedi cyfrannu at fywyd lleol, cenedlaethol neu ryngwladol. Mae’r Frenhines yn rhan bwysig hefyd o’r broses o gefnogi gwasanaeth cymunedol, yn enwedig drwy’r Lluoedd Arfog a’r sectorau cyhoeddus a gwirfoddol. Y Frenhines yw Pennaeth y Lluoedd Arfog. Mae’n cadw’r cyswllt â’u gwaith a’u diddordebau nhw drwy ymweld â safleoedd milwrol yn rheolaidd. Mae cysylltiadau agos gan y Frenhines ac aelodau eraill y Teulu Brenhinol â dros 3,200 o elusennau.
Yn ogystal â’i rôl ffurfiol, mae’r Frenhines yn gweithredu fel canolbwynt undod cenedlaethol a’r synnwyr o bwy ydyn ni. Bob blwyddyn, mae’r Frenhines ac aelodau eraill y Teulu Brenhinol yn gwneud bron 3,000 o ymweliadau â llawer o rannau’r Deyrnas Unedig. Maen nhw’n gweld datblygiadau newydd a champau ym meysydd diwydiant, amaethyddiaeth, addysg, y celfyddydau, meddygaeth, chwaraeon a nifer o agweddau eraill ar fywyd.
Ar ôl cyflawni’r dyletswyddau yma am dros 50 mlynedd, mae’r Frenhines wedi cynnig dilyniant a sefydlogrwydd mewn oes o newid a datblygu cyflym.
|