Cynulliad Cenedlaethol Cymru
© Presiding Office, National Assembly for Wales


Mae’r Frenhines yn Frenhines ar y Deyrnas Unedig gyfan. Mae’n cynrychioli’i holl wahanol ranbarthau, cymunedau a phobl.

Dydi datganoli gwleidyddol ddim wedi effeithio ar sefyllfa gyfansoddiadol Y Frenhines yng Nghymru. Fe wnaeth refferendwm ar 18 Medi 1997 bleidleisio o blaid Cynulliad Cenedlaethol i Gymru. Fe gafodd yr etholiadau cynta’ eu cynnal ar 6 Mai 1999. Mae etholiadau’n cael eu cynnal yng Nghymru bob pedair blynedd.

Fe gafodd y Cynulliad ei agor yn swyddogol yng Nghaerdydd ar 26 Mai 1999. Roedd gan Y Frenhines a Thywysog Cymru ran bwysig yn y seremoni agoriadol gyda’r Frenhines a Thywysog Cymru fel ei gilydd yn siarad. Yn ystod y seremoni, fe wnaeth Y Frenhines lofnodi dogfen oedd â geiriau agoriadol Deddf Llywodraeth Cymru arni. Darllenwch araith Y Frenhines ar achlysur agor Cynulliad Cymru.
 
Mae 60 aelod o’r Cynulliad (yn cynnwys Y Llywydd). Dim ond deddfwriaeth eilaidd a all ei chyflwyno, mewn meysydd fel deddfwriaeth, iechyd, hyfforddiant, yr amgylchedd, tai, twristiaeth ac amaethyddiaeth. Does ganddo ddim grym i newid treth incwm. Ond y Cynulliad sy’n dosbarthu’r arian mae Trysorlys y DU yn ei roi i Gymru. Mae Cymru’n para o fewn fframwaith y Deyrnas Unedig, ac mae deddfau a ddaw i rym yn Senedd San Steffan yn para’n weithredol yng Nghymru.

Dydi’r Frenhines ddim yn penodi Prif Weinidog y Cynulliad, nac yn cymeradwyo is-ddeddfwriaeth y Cynulliad. Ond mae’r ddeddfwriaeth a arweiniodd at sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n ei gwneud hi’n glir ei fod yn un o Gyrff y Goron. Mae aelodau’r Cynulliad yn tyngu llw o deyrngarwch i’r Brenin neu’r Frenhines.

Hefyd, mae staff y Cynulliad yn perthyn i Wasanaeth Sifil Cartrefol Ei Mawrhydi. O bryd i’w gilydd, mae’r Frenhines yn cynnal cyfweliadau â’r Prif Weinidog er mwyn cael gwybod am faterion yng Nghymru. Ond gweinidogion Ei Mawrhydi yn y DU sy’n ei chynghori hi’n ffurfiol ar sut y dylai weithredu o safbwynt Cymru.

Mae’r Frenhines yn ymweld â Chymru’n rheolaidd, gan gwrdd â phobl o bob maes a mynd i ddigwyddiadau sy’n genedlaethol bwysig. Ymysg ei hymweliadau diweddar oedd sefydlu sesiynau Cynulliad Cymru, ac agor Canolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 2004.

Mae’r Tywysog yn falch iawn o’i gyswllt â Chymru ac mae’n cymryd ei ddyletswyddau fel Tywysog Cymru o ddifri’. Gall Ei Uchelder Brenhinol olrhain ei linach yn ôl drwy’r Tuduriaid i Dywysogion gwreiddiol Cymru. O’r rheini, Tywysog ola’ Cymru oedd yn frodor o’r wlad oedd Llywelyn ap Gruffydd (1246-82).

Yn 1969, fe dreuliodd Tywysog Cymru un tymor yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, i ddysgu Cymraeg, cyn cael ei arwisgo’n ffurfiol fel Tywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon ar 1 Gorffennaf 1969. Ers ei arwisgo, mae’r Tywysog wedi cadw’i gyswllt â Chymru. Mae wedi ymweld â chymunedau cefn gwlad a threfi fel arwydd ei fod yn cefnogi diwylliant a thraddodiadau Cymru.

Mae aelodau eraill o’r Teulu Brenhinol yn ymweld â Chymru’n rheolaidd hefyd. Maen nhw’n cefnogi mudiadau ac elusennau lleol, yn mynd i seremonïau ac achlysuron, ac yn cwrdd â phobl ar draws y wlad.



Y Frenhines
more >
 

Tywysog Cymru
more >

CYSYLLTAU
Tywysog Cymru
Cynulliad Cenedlaethol Cymru