Anrhydeddau Tywysogaeth Cymru © National Museums & Galleries of Wales
|
Tlysau’r Goron sy’n cael eu cysylltu â Thywysogion Cymru yw Anrhydeddau Tywysogaeth Cymru.
Yn wreiddiol, roedd yr arwyddnodau traddodiadol oedd yn cael eu defnyddio wrth arwisgo Tywysog Cymru’n cynnwys coronig, modrwy, rhoden a mantell. Fe gafodd cleddyf a gwregys eu hychwanegu yn ystod Oes y Tuduriaid. Ymysg yr arwyddnodau sy’n dal i fod ac oedd yn perthyn i Dywysogion blaenorol y mae Coron Tywysog Cymru. Fe gafodd y goron yma’i gwneud yn 1728 ar gyfer Tywysog Frederick Louis (mab hyna’ George II, a fu farw cyn gallu etifeddu’r orsedd).
Yn 1677, fe gyhoeddodd Charles II warant oedd yn dweud y byddai “Mab ac Etifedd amlwg y Goron … yn defnyddio a gwisgo’i Goronig sydd wedi’i gwneud o Groesau a gellesg gydag un Bwa, a Phêl a chroes yn y canol…”. Mae’r disgrifiad yma o’i chynllun wedi cael ei pharchu ers hynny.
Yn 1911, fe gafodd set newydd o anrhydeddau Cymreig eu dylunio ar gyfer arwisgiad Tywysog Edward (a ddaeth yn Frenin Edward VIII ac, wedi hynny, yn Ddug Windsor) yng Nghastell Caernarfon. Roedd regalia 1911 yn cynnwys coronig, rhoden, modrwy, cleddyf a gwn neu fantell gyda dwbled a sash. Fe gafodd aur o fwynglawdd yng Ngwynedd ei ddefnyddio i wneud y regalia. Mae’r ddraig Gymreig i’w gweld ar y rhoden, y fodrwy a’r cleddyf.
Fe gafodd rhoden, modrwy a chleddyf 1911 eu defnyddio eto yn ystod arwisgiad Tywysog Charles yn 1969, yng Nghastell Caernarfon unwaith eto. Fe gafodd clasbiau gwn 1911 eu defnyddio hefyd. O flaen 4,000 o westeion, darllenwyd llythyrau patent arwisgiad y Tywysog mewn Saesneg a Chymraeg. Yn ystod y darlleniad, fe arwisgodd Y Frenhines y Tywysog ag arwyddnodau’r Dywysogaeth. Fe gafodd y cleddyf fel symbol o gyfiawnder, y goron fel arwydd o safle, y fodrwy fel arwydd o ddyletswydd a’r rhoden fel symbol o lywodraeth.
Mae regalia arwisgiad 1911, a’r eitemau newydd a wisgodd Tywysog presennol Cymru, wedi’u benthyca i Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.
|